Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynu a chyflenwi bwydydd sipian (Wedi'i dynnu'n ôl)

Mae bwydydd sipian yn derm a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio atchwanegiadau maethol drwy'r geg a roddir er mwyn cynyddu cymeriant maethol pobl y cydnabyddir eu bod yn dioddef o ddiffyg maeth neu sydd mewn perygl o ddioddef diffyg maeth. Mae'r ddogfen hon yn disgrifio blaenoriaethau allweddol ar gyfer presgripsiynu a chyflenwi bwydydd sipian yng Nghymru, a'i bwriad yw ategu canllawiau NICE ar gymorth maeth mewn oedolion (CG32).

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Prescribing and Supply of Sip Feeds 152KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(2006)

(Wedi’i dynnu’n ôl - Ionawr 2025)

Dilynwch AWTTC: