Nod y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yw gwella mynediad cleifion at gyngor cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli anhwylderau cyffredin. Mae'r ddogfen hon yn cynnwys monograffau ar gyfer pob un o'r anhwylderau a gwmpesir gan y gwasanaeth.
- acne vulgaris
- rhinitis alergaidd
- tarwden y traed (athlete’s foot)
- poen yng ngwaelod y cefn heb radiciwlopathi (aciwt)
- brech yr ieir (mewn plant o dan 14 oed)
- doluriau annwyd
- llid yr amrannau (bacterol)
- rhwymedd
- dolur rhydd
- clefyd llygaid sych
- croen sych (gan gynnwys dermatitis cyswllt ac ecsema atopig)
- dyspepsia
- hemoroidau
- llau pen
- colig babanod
- ewinedd traed sy’n tyfu i’r byw
- wlserau ceg (aphthous syml)
- brech cewyn
- candidïasis geneuol
- tarwden (tinea corporis), tinea cruris ac intertrigo
- clefyd crafu
- dolur gwddf (canllaw dros dro)
- trafferthion tyfu dannedd
- llyngyr edau
- haint y llwybr wrinol
- candidïasis fylfa-faginol
- dafadennau a ferwcau
Datblygwyd y llyfr fformiwlâu gan ddefnyddio adnoddau cydnabyddedig ac roedd yn cynnwys ymgynghoriad aml-broffesiynol i sicrhau bod fferyllwyr a meddygon teulu yn darparu cyngor cyson.
Awst 2023 (Ddiweddarwyd Tachwedd 2024)
Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA).