Codwyd yr angen am siartiau atgoffa meddyginiaeth wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty fel mater yn dilyn enghreifftiau anecdotaidd o anawsterau a brofir gan gleifion. Trafodir y sefyllfa bresennol a'r mesurau sydd eu hangen i liniaru materion a godwyd yn y ddogfen hon, a darperir templed o siart atgoffa meddyginiaeth ar gyfer ei haddasu’n lleol.
Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG. Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl. Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.
Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk. |
⇩ Patient Information at the Point of Discharge: Medicine Reminder Chart 131KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
⇩ Medicine Reminder Chart (Standard) 62KB (Word) (Saesneg yn unig) |
⇩ Medicine Reminder Chart (Long) 80KB (Word) (Saesneg yn unig) |
(Rhagfyr 2011)
(Wedi’i dynnu’n ôl - Ionawr 2025)