Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Gofal a Rennir Cymru Gyfan

Nod y ddogfen hon yw sicrhau cysondeb mewn gofal a rennir ledled Cymru o ran egwyddorion, cymhwysiad datblygu ac adolygu trefniadau gofal a rennir, a defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y claf ar gyfer gofal a rennir.

Amlinellir egwyddorion gofal a rennir, a darperir fframwaith ar gyfer rhannu gofal yn ddi-dor rhwng y claf, gwasanaethau arbenigol, a gofal sylfaenol mewn sefyllfaoedd lle mae hynny’n briodol, yn fuddiol i’r claf, ac yn cael ei gefnogi ganddynt.

Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn 2021 fel y ddogfen ‘Canllawiau presgripsiynu a monitro gofal a rennir’, mae’r diweddariad hwn yn cynnwys set o egwyddorion gofal a rennir, meini prawf ar gyfer meddyginiaethau sy’n addas ar gyfer gofal a rennir, ystyriaethau sy’n canolbwyntio ar y claf, manylion clir rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n gysylltiedig, diagram llif cefnogi penderfyniadau, taflen wybodaeth i gleifion, a ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd gysylltiedig.

Mae’r fframwaith hwn yn berthnasol i gytundebau gofal a rennir rhwng gwasanaethau arbenigol (gan gynnwys gofal eilaidd neu drydyddol) a gofal sylfaenol, lle mae cyfrifoldebau dros bresgripsiynu a monitro meddyginiaethau yn cael eu rhannu’n ffurfiol o dan brotocol diffiniedig.

⇩ All Wales Shared Care Framework (Saesneg yn unig503KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Awst 2025)

Equality and Health impact Assessment form - All Wales Shared Care Framework (Saesneg yn unig) 

Adnoddau ychwanegol:

Taflenni gwybodaeth i gleifion:

Mae'r taflenni gwybodaeth i gleifion hyn yn darparu gwybodaeth bwysig i gleifion ei hystyried ar gyfer eu cytundebau gofal a rennir. Cyflwynir y taflenni mewn dau fformat (A a B), pob un â fersiynau Cymraeg a Saesneg. Mae Fformat B mewn fformat hawdd ei ddarllen, ac mae ar gael mewn fersiynau a gynlluniwyd i'w defnyddio'n ddigidol neu i'w hargraffu.

(Taflenni gwybodaeth i gleifion a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025)

Diffiniad o Ofal a Rennir:

Definition of Shared Care (Saesneg yn unig) 21KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Mawrth 2006)

Dilynwch AWTTC: