Neidio i'r prif gynnwy

Ffarmacotherapi ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu

Mae ysmygu yn parhau i fod yn brif achos afiechyd y gellir ei atal a marwolaethau cynamserol yng Nghymru. Mae ymyriadau rhoi’r gorau i ysmygu yn ffordd gosteffeithiol o leihau salwch ac atal marwolaethau cynamserol, a gall defnyddio ffarmacotherapi ochr yn ochr â chymorth ar gyfer newid ymddygiad wella cyfraddau rhoi’r gorau iddi yn sylweddol. Mae’r canllaw hwn yn cefnogi’r broses o ragnodi a darparu ffarmacotherapi rhoi’r gorau i ysmygu yn GIG Cymru ar gyfer ysmygwyr sy’n awyddus i roi’r gorau iddi.

Mae'r ddogfen wedi'i hadolygu a'i diweddaru i gynnwys cyngor AWMSG ar gyfer cytisinicline (cytisine); ac mae’r adran wybodaeth ar systemau dosbarthu nicotin electronig (ENDS), megis fêps ac e-sigaréts, wedi’i diweddaru mewn cydweithrediad â thimau Rheoli Tybaco Iechyd Cyhoeddus Cymru a grwpiau Helpa Fi i Stopio (HMQ).

⇩ All Wales Guide: Pharmacotherapy for Smoking Cessation 359KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Chwefror 2018)

(Diweddarwyd Tachwedd 2024)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

All Wales Guide - Pharmacotherapy for smoking cessation - 197KB (PDF) - Tachwedd 2024 (saesneg yn unig)

 

Dilynwch AWTTC: