Neidio i'r prif gynnwy

Dogfen atgoffa am arfer gorau: Peidiwch â defnyddio nitrofurantoin i drin pyeloneffritis (Wedi ymddeol)

Mae defnydd amhriodol o wrthfiotigau pan amheuir haint y llwybr wrinol yn peri risg o haint gydag organebau aml-ymwrthedd a thriniaeth yn methu, gan arwain at wrosepsis. Mae gwella rheolaeth heintiau’r llwybr wrinol yn bwysig ar gyfer diogelwch cleifion a stiwardiaeth gwrthficrobaidd.

Mae’r ddogfen ‘Atgoffa am Arfer Gorau’ fer hon wedi’i datblygu i hysbysu presgripsiynwyr gofal sylfaenol ynglŷn â pheidio â phresgripsiynu nitrofurantoin ar gyfer cleifion yr amheuir fod ganddynt pyeloneffritis, y sail resymegol am hyn a beth ellid eu bresgripsiynu yn ei le.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio a, gan fod canllawiau amgen addas eraill ar gael (e.e. Canllawiau gwrthficrobaidd gofal sylfaenol, gan AWMSG), roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwy priodol i’r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Best Practice Reminder: Avoid Nitrofurantoin in the Treatment of Pyelonephritis (Saesneg yn unig) 225KB (PDF)

(Chwefror 2021 - Cyhoeddiad gwreiddiol)

(Rhagfyr 2024 - Wedi ymddeol)

Dilynwch AWTTC: