Nod y pecyn addysgol hwn yw cefnogi presgripsiynu priodol cyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder ledled Cymru drwy roi dull ymarferol i weithwyr iechyd proffesiynol allweddol ddechrau ac adolygu presgripsiynu cyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder. Mae’n cynnwys enghreifftiau o ddeunydd cefnogi y gellir ei ddefnyddio neu ei addasu at y diben hwn.
Rhagwelir y bydd mabwysiadu’r enghreifftiau ‘arfer gorau’ a gyflwynir yn y pecyn hwn yn cynorthwyo i leihau presgripsiynu hirdymor y cyffuriau hyn.
Datblygwyd y pecyn yn wreiddiol gan Bartneriaeth Meddyginiaethau Cymru (WMP) yn 2011 ac mae wedi cael ei ddiweddaru’n flaenorol (2016) i adlewyrchu newidiadau yng nghanllawiau NICE, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau a Deddf Traffig Ffyrdd. Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys diwygiadau pellach, gan adlewyrchu’n arbennig sut y mae categoreiddiad insomnia wedi newid.
⇩ Material to Support Appropriate Prescribing of Hypnotics and Anxiolytics Across Wales 818KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
Cyhoeddwyd Gorffennaf 2021 - yn disodli'r fersiwn a gyhoeddwyd yn flaenorol ym mis Rhagfyr 2016.
Adrannau tynnu allan (MS Word) - Saesneg yn unig, darperir gwybodaeth i gleifion yn Saesneg ac yn Gymraeg.