Wedi’i gyhoeddi’n flaenorol ym mis Mawrth 2020, mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar drin cleifion sydd â ffibriliad atrïaidd anfalfaidd (NVAF) ac mae’n cynnwys offeryn asesu risg/budd, a chrynodeb un dudalen ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd Cymru sy’n dewis gwrthgeulydd drwy’r geg uniongyrchol ar gyfer y boblogaeth cleifion hon.
Diweddarwyd y canllaw hwn ym mis Chwefror 2022 i adlewyrchu newidiadau yng nghanllaw NICE. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori’r offeryn gwaedu ORBIT fel rhan o’r offeryn asesu risg/budd ac ail-leoli gwrthgeulyddion drwy’r geg uniongyrchol (DOAC) cyn gwerthweithyddion fitamin K (e.e. warfarin) yn y llwybr triniaeth.
⇩ All Wales Advice on Oral Anticoagulation for Non-valvular Atrial Fibrillation 517KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Chwefror 2022)