Nod y canllaw hwn yw darparu gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i hysbysu cleifion yn well ar sut i reoli syndrom llygad sych gan ddefnyddio hylendid amrant da. Mae'r adnodd hwn hefyd yn cynnwys canllawiau presgripsiynu syndrom llygad sych a chanllawiau ynglŷn â phryd y dylid atgyfeirio. Rhagwelir y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG. Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl. Ystyriwyd bod y cynnwys a gynhwysir yn yr adnodd wedi dyddio a, gan fod canllawiau cenedlaethol eraill ar gael (e.e. Llyfr Fformiwlâu Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Coleg yr Optometryddion a NICE), roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwy priodol i’r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd. Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk. |
⇩ Dry Eye Syndrome Guidance 409KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Rhagfyr 2016)
(Wedi’i dynnu’n ôl - Rhagfyr 2024)