Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau presgripsiynu: Cychwyn atal cenhedlu mewn gofal sylfaenol (Wedi ymddeol)

Datblygwyd canllawiau presgripsiynu ar gyfer cychwyn atal cenhedlu mewn gofal sylfaenol gan AWPAG, yn seiliedig ar waith gan NHS Glasgow Fwyaf a Clyde, er mwyn lleihau amrywiad ar draws y byrddau iechyd a gwella diogelwch cleifion. Mae fersiwn PowerPoint o'r siart ar gyfer ei haddasu’n lleol ar gael ar gais gan AWTTC.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Chwefror 2025. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio a gan fod canllawiau amgen addas eraill ar gael (e.e. Canllawiau CEU: Newid neu ddechrau dulliau atal cenhedlu (FSRH) a CG30 Dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hir-weithredol (NICE)), roedd aelodau AWPAG o’r farn mai’r peth mwyaf priodol oedd i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

Os ydych yn credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch ag AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Prescribing Guidelines: Initiating Contraception in Primary Care 845KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Tachwedd 2012, Wedi ymddeol Mehefin 2025)

Dilynwch AWTTC: