Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i gefnogi defnyddio therapi bisffosffonad drwy'r geg hirdymor yn ddiogel (Wedi'i dynnu'n ôl)

Mae data diweddar wedi awgrymu y gallai defnydd tymor hwy o driniaeth bisffosffonad (yn enwedig > pum mlynedd) fod yn gysylltiedig â risg uwch o sgîl-effeithiau cysylltiedig â chyffuriau, yn enwedig toriad asgwrn y forddwyd annodweddiadol. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu strategaeth Cymru Gyfan i addasu'r risg hon drwy ailasesu cleifion ac ystyried 'gwyliau cyffuriau'. Mae'r wybodaeth a ddarperir ar gyfer presgripsiynwyr yn cynnwys proses adolygu ar gyfer cleifion y presgripsiynwyd therapi bisffosffonad iddynt am bum mlynedd neu ragor.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

 

Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Guidance to Support the Safe Use of Long-term Oral Bisphosphonate Therapy 234KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Medi 2015)

(Wedi’i dynnu’n ôl Rhagfyr 2024)

Dilynwch AWTTC: