Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau gwrthficrobaidd gofal sylfaenol

Datblygwyd y canllaw hwn i roi cyngor cynhwysfawr ar reoli cyffuriau gwrthficrobaidd ar gyfer heintiau cyffredin mewn gofal sylfaenol, gan ystyried data rhagdueddiad pathogenau lleol a gwrthficrobaidd yng Nghymru. Mae datblygiad y canllaw wedi cynnwys yr holl ganllawiau gofal sylfaenol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan sefydliadau megis y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Public Health England (PHE) a Chymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain (BASHH). Lle bo’n bosibl, dewiswyd dewisiadau triniaeth gwrthficrobaidd i leihau’r risg o driniaeth yn methu oherwydd ymwrthedd gwrthficrobaidd presennol, yn ogystal â lleihau’r risg o ddal haint Clostridioides difficile neu ddatblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd pellach.

Mae defnyddio’r gwrthfiotigau cywir dim ond pan fo angen, gyda’r bwlch cywir rhwng dosau ac am y cyfnod amser cywir, yn hanfodol i helpu i fynd i’r afael ag ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau. Nod y canllawiau hyn yw darparu dull syml, effeithiol, darbodus ac empirig ar gyfer trin heintiau cyffredin; er mwyn lleihau ymddangosiad ymwrthedd bacteriol yn y gymuned.

Primary care antimicrobial guidelines (Saesneg yn unig) 983KB (PDF)

(Cyhoeddwyd - Mawrth 2022)
(Wedi'i ddiweddaru - Awst 2024)

Dilynwch AWTTC: