Amcangyfrifir bod tua 10% o gleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty wedi'u labelu ag alergedd penisilin, ond nid yw'r mwyafrif helaeth wedi profi adwaith alergaidd. Mae tystiolaeth gynyddol y gall labeli alergedd penisilin anghywir arwain at gleifion yn cael triniaeth gwrthfiotig amgen is-optimaidd a gallai hyn arwain at ganlyniadau gwaeth. Felly, mae'n fuddiol asesu a yw cleifion wedi profi adwaith alergaidd gwirioneddol ac ystyried cael gwared ar eu label alergedd.
Nod y ddogfen hon yw arwain arfer gorau ar adnabod a chael gwared ar labeli alergedd penisilin ymhlith oedolion nad ydynt wedi profi adwaith gorsensitifrwydd gwirioneddol. Bwriedir i’r canllawiau hyn gael eu defnyddio ymhlith cleifion sy’n adrodd am alergedd penisilin mewn lleoliadau gofal eilaidd yn GIG Cymru.
⇩ All Wales guidance for penicillin allergy de-labelling in adults in secondary care (Saesneg yn unig) 575KB (PDF) |
(Cyhoeddwyd Gorffennaf 2024)
Mae’r atodiadau y cyfeirir atynt yng nghanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer dad-labelu alergedd penisilin mewn oedolion mewn gofal eilaidd i gyd ar gael i’w lawrlwytho ar wahân:
Mae taflenni gwybodaeth Hawdd eu Darllen i gleifion ar gael yn Gymraeg neu Saesneg:
(Cyhoeddwyd taflenni gwybodaeth i gleifion Gorffennaf 2024)