Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar bresgripsiynu ar gyfer diffyg ymgodol (Wedi'i dynnu'n ôl)

Dim ond o dan rai amgylchiadau y gellir presgripsiynu triniaethau cyffuriau ar gyfer diffyg ymgodol yn GIG Cymru. Roedd Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC) (99) 148, a gyhoeddwyd ym 1999, yn rhoi canllawiau i GIG Cymru ynglŷn â nodi a rheoli o fewn gwasanaethau arbenigol ddynion y canfuwyd eu bod yn dioddef trallod difrifol o ganlyniad i ddiffyg ymgodol. Mae WHC (99) 148 wedi'i adolygu ac mae'r ddogfen ganlynol yn darparu argymhellion wedi'u diweddaru ynglŷn â phresgripsiynu triniaethau ar gyfer diffyg ymgodol. Mae'r canllaw hwn yn disodli Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC) (99) 148.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

 

Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Guidance on Prescribing for Erectile Dysfunction 135KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Hydref 2012)

(Rhagfyr 2024 -Wedi’i dynnu’n ôl)

Chief Pharmaceutical Officer Circular (Saesneg yn unig)

Dilynwch AWTTC: