Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn disgrifio amlgyffuriaeth fel problem fyd-eang fawr ac mae wedi gosod her diogelwch byd-eang i osgoi niwed cysylltiedig â meddyginiaeth. Cysylltir cleifion sy’n cael presgripsiwn ar gyfer nifer uwch o feddyginiaethau â risg gynyddol o niwed ac mae’n rhagfynegydd cryf o orfod mynd i’r ysbyty o ganlyniad i ddigwyddiadau cyffuriau niweidiol. Felly, mae asesu amlgyffuriaeth a bod cleifion yn cadw at feddyginiaeth yn hollbwysig.
Mae’r canllaw canlynol wedi’i greu i helpu i gefnogi optimeiddio meddyginiaethau mewn cleifion hŷn a allai fod yn cael presgripsiynau amlgyffuriaeth amhriodol, ac mae’n cynnwys canllawiau ymarferol ar gyfer atal y grwpiau canlynol o feddyginiaethau:
⇩ Polypharmacy in older people: A guide for healthcare professionals (Saesneg yn unig) 444KB (PDF) |
(Mawrth 2023)