Nod proses Gydnabod AWMSG yw amlygu’r adnoddau, mentrau neu ymgyrchoedd sydd eisoes wedi’u cydnabod neu eu cymeradwyo gan gorff neu sefydliad cenedlaethol ac sydd wedi eu rhoi ar waith neu eu derbyn fel arfer da o fewn GIG Cymru.
Mae adnoddau cydnabyddedig yn cefnogi’r argymhellion yn Strategaeth Meddyginiaethau bresennol AWMSG, neu fe’u hystyrir yn sylweddol berthnasol ar gyfer optimeiddio meddyginiaethau yng Nghymru.
Sylwer
Adnoddau cydnabyddedig cyfredol
Mae Grŵp Canllawiau Gwrthficrobaidd Cymru Gyfan (AWAGG) wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau arbenigol ar y defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn rhai senarios. Ymgynghorwyd ar y canllawiau hyn drwy AWAGG, Timau Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd lleol Cymru, a'u gwirio gan y rhwydwaith fferyllwyr gwrthficrobaidd, microbioleg ac arbenigwyr yn ôl yr angen. Cefnogir gwaith AWAGG gan Dîm y Rhaglen Heintiau, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Phresgripsiynu sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd (HARP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r canllawiau arbenigol a ddatblygwyd gan AWAGG ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae AWMSG wedi cydnabod yr adnoddau canlynol fel enghreifftiau o arfer da:
Un o brif nodau arweinwyr Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT) y Rhwydwaith Canser yw cynhyrchu un set o brotocolau a chanllawiau ategol ar gyfer Cymru Gyfan, a all ysgogi’r gwaith o gysoni arfer ledled Cymru a hwyluso’r gwaith o symud i un system eBresgripsiynu SACT.
Mae adnoddau SACT a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Canser ar gael drwy wefan Y Weithrediaeth GIG Cymru. Mae AWMSG wedi cydnabod yr adnoddau canlynol fel enghreifftiau o arfer da:
Guideline for prevention and management of tumour lysis syndrome (Saesneg yn unig) (Cydnabyddwyd gan AWMSG: Ebril 2024)
Mae pryder ar hyn o bryd ynghylch y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig, a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n briodol ac yn ddiogel. Mae defnyddio offeryn asesu cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gefnogi’r gwaith o ragnodi’r meddyginiaethau hyn wedi’i argymell. Mae'r proffil Adwaith Niweidiol i Gyffuriau (ADRe) wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i nodi adweithiau niweidiol a phrofwyd ei fod yn lleihau'r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig.
Rhagor o wybodaeth:
Mae'n bwysig nodi nad yw defnyddio ADRe yn golygu nad oes angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol neu gleifion roi gwybod am unrhyw effeithiau niweidiol a gafwyd o ganlyniad i feddyginiaethau drwy'r Cynllun Cerdyn Melyn.
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Ebril 2023
Gyda datblygiad wedi’i gefnogi gan Fwrdd Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMRDB) Cymru, mae’r Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK) i’w ddefnyddio ym mhob lleoliad gofal eilaidd ar gyfer cleifion aciwt mewn ysbytai yng Nghymru, gan ddarparu templed cyson ar gyfer adolygu presgripsiynu gwrthfiotigau.
Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r siart wedi’i rhoi ar waith yn dilyn canlyniadau astudiaeth y Pecyn Adolygu Gwrthfiotigau (ARK). Pecyn cymorth newid ymddygiad stiwardiaeth gwrthficrobaidd yw ARK, sy’n seiliedig ar egwyddorion Start Smart Then Focus (SSTF) a’i nod yw gwella adolygiad o wrthfiotigau gan 72 awr, ac atal neu ddiwygio triniaeth.
Gweld fersiwn sampl o’r cofnod:
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Medi 2022
Mae canllawiau newydd sy’n rhoi argymhellion seiliedig ar dystiolaeth ar reoli llid yr isgroen ar gyfer pobl â lymffoedema/oedema cronig wedi’u datblygu a’u cyhoeddi gan Rwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru. Mae’r canllaw yn cynnwys cyngor ar ddiagnosis a fflagiau coch, llwybrau gwrthfiotig a chynllun rheoli.
Mae’r ddogfen wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Strategaeth Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru, Rhaglen Genedlaethol Gwella Lymffoedema Llid yr Isgroen (NLCIP) a Grŵp Canllawiau Gwrthficrobaidd Cymru Gyfan (AWAGG).
Darganfod mwy (Sylwer: mae’r canllaw hwn ar gael ar hyn o bryd dim ond i staff o fewn GIG Cymru trwy Microsoft SharePoint):
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Rhagfyr 2021
Wedi’i gynhyrchu gan y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Fethiant y Galon, mae’r canllaw hwn ar gyfer optimeiddio triniaeth methiant y galon sydd â ffracsiwn alldafliad llai yn canolbwyntio ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael i hybu cychwyn pedwar grŵp o feddyginiaethau, y mae gan pob un ohonynt fuddion cynnar sylweddol o ran marwolaethau ac afiachedd. Mae’r pedwar grŵp meddyginiaeth yn cynnwys: beta-atalyddion; gwrthweithyddion derbynnydd mwynocorticoid; atalyddion neprilysin derbynnydd angiotensin; ac atalyddion cotransporter-2 sodiwm-glwcos. Mae’r canllaw hwn yn annog optimeiddiad cyflym dosau o feddyginiaethau gan arwain at y lleiaf posibl o ymweliadau ar gyfer cleifion, ac felly’n rhoi gwell gwerth i gleifion a GIG Cymru drwy well canlyniadau ac arbedion effeithlonrwydd.
Rhagor o wybodaeth (Sylwer: mae’r canllaw hwn ar gael ar hyn o bryd dim ond i staff o fewn GIG Cymru, ac efallai y bydd angen cyflwyno cais am fynediad): Methiant y Galon yng Nghymru – Dull Cyfochrog
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Rhagfyr 2021
Mae'r Bwrdd Caffael Seiliedig ar Dystiolaeth (EBPB) yn gwneud argymhellion ac yn cynhyrchu canllawiau ar gyfer caffael technolegau meddygol ar gyfer GIG Cymru sy’n seiliedig ar werth a thystiolaeth, gan gynorthwyo â’r agenda rhesymoli a safoni yn unol ag egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus, a chaiff ei ategu gan yr athroniaeth “Unwaith i Gymru”.
Yn 2021, diweddarodd EBPB eu hargymhellion ar ddefnyddio gorchuddion clwyfau gwrthficrobaidd (AWDs) ar gyfer GIG Cymru, sydd wedi cael eu mabwysiadu ers hynny gan nyrsys Hyfywedd Meinwe, grŵp rheoli clwyfau caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), a'r rhan fwyaf o grwpiau llyfr fformiwlâu ar draws GIG Cymru.
Rhagor o wybodaeth: Gorchuddion Clwyfau Gwrthficrobaidd (AWDs) — Datganiad, Argymhellion a Chanllawiau
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Rhagfyr 2021
Mae’r Grŵp Fferyllwyr Newyddenedigol a Pediatrig (NPPG) a Choleg Brenhinol y Pediatryddion ac Iechyd Plant (RCPCH) wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa sy’n argymell yn gryf pan fydd plant angen meddyginiaethau hylifol didrwydded y dylent dderbyn y cryfder a argymhellir gan RCPCH a NPPG, pan fo hynny’n bodoli.
Drwy safoni’r cryfderau presgripsiynu y meddyginiaethau hyn, bydd y canllaw’n lleihau’r perygl bod gwallau’n cael eu gwneud yn y dosau a roddir i blant ac yn atal gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd tan-ddosio neu gor-ddosio damweiniol.
Rhagor o wybodaeth: Defnyddio Crynodiadau Safonol Meddyginiaethau Hylifol Didrwydded mewn Plant
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Medi 2020
Datblygwyd yr egwyddorion hyn gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) Cymru Cyf mewn partneriaeth â Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan (AWASH) a GIG Cymru, i ddarparu templed ar gyfer datblygu polisïau meddyginiaethau fel bod cymorth ar feddyginiaethau yn cael ei ddarparu mewn modd cyson ledled Cymru.
Cefnogir a chymeradwyir y gwaith hwn fel arfer da gan y sefydliadau canlynol:
Rhagor o wybodaeth: Egwyddorion Arweiniol Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Meddyginiaethau yn y Sector Cartref
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Chwefror 2020
Mudiad i annog sgyrsiau agored rhwng cleifion a’u clinigwyr yw Gwneud Dewisiadau Gyda’n Gilydd er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynglŷn â’r gofal cywir ar gyfer y claf wedi’i lywio gan dystiolaeth dda ac sy’n ymatebol i anghenion a dymuniadau’r claf.
Rhagor o wybodaeth: Gwneud Dewisiadau Gyda'n Gilydd (harchifo)
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Chwefror 2019
Mae’r ymgyrch Eich Medddyginiaethau Eich Iechyd yn darparu rhaglen addysg y cyhoedd ynglŷn â manteision defnyddio, storio a gwaredu meddyginiaethau yn ddiogel ac effeithiol.
Mae'r ymgyrch Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd yn canolbwyntio ar hysbysebu a deunydd hyrwyddo, sgyrsiau personol a chyflwyniadau, gan ddefnyddio negeseuon syml a rhoi camau hawdd y gall pobl eu cymryd i wella eu rheolaeth ar feddyginiaethau
Rhagor o wybodaeth: Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd
Cydnabyddwyd gan AWMSG: Chwefror 2019