Mae AWTTC wedi ychwanegu 3 chyhoeddiad newydd at ei chatalog o erthyglau cyfnodolion; llythyrau; posteri cynadleddau, crynodebau a sgyrsiau; llyfrau a phenodau llyfrau a Chymrodoriaethau.
Grŵp Ymchwil AWTTC yn astudio’r defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau yng Nghymru. Mae themâu ymchwil allweddol yn cynnwys mynediad at feddyginiaethau, optimeiddio meddyginiaethau a diogelwch meddyginiaethau.
Ym mis Mehefin, cafodd papur yr Athro Phil Routledge a Robert Bracchi: “Improving the spontaneous reporting of suspected adverse drug reactions: An overview of systematic reviews” ei gyhoeddi yn y British Journal of Clinical Pharmacology. Gallwch ei ddarllen yma.
Ym mis Mehefin cafodd papur gan Bethan Hughes, Laurence Gray, Sally Bradberry, Euan Sandilands, Ruben Thanacoody a James Coulson: “Metformin-associated lactic acidosis reported to the United Kingdom National Poisons Information Service (NPIS) between 2010 and 2019: a ten-year retrospective analysis” ei gyhoeddi yn Clinical Toxicology. Gallwch ei ddarllen yma:
Ym mis Gorffennaf cafodd papur gan Katherine Chaplin, Robert Bracchi, Kath Haines, yr Athro Phil Routledge a Paul Deslandes ar: “Antidepressant prescribing patterns and adverse events following introduction of a National Prescribing Indicator to monitor dosulepin usage in Wales” ei gyhoeddi yn y British Journal of Clinical Pharmacology. Gallwch ei ddarllen yma:
Mae rhestr lawn o 370 o gyhoeddiadau ymchwil AWTTC ar ein gwefan.
Mae'r rhestr chwiliadwy yn caniatáu i gleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r diwydiant ddysgu mwy am waith AWTTC ac archwilio ein hymchwil gyhoeddedig.
I ddod o hyd i gyhoeddiad gallwch chwilio yn ôl pwnc neu allweddair, neu gyfenw’r awdur. Bydd chwiliad manwl yn hidlo canlyniadau yn ôl: