5 Ionawr 2024
Cydweithiodd Canolfan Cerdyn Melyn Cymru yn ddiweddar ag Ysbyty Radio Morgannwg i gynhyrchu jingl radio yn hysbysu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd am adroddiadau Cerdyn Melyn ar gyfer meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol.
Mae'r jingle yn cael ei chwarae ar Ysbyty Radio Morgannwg ar hyn o bryd a gallwch wrando (nid yn yr ysbyty yn unig!) ar-lein, ar ffonau symudol a seinyddion clyfar. Gallwch hefyd wrando ar y clip ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol @YCCWales.
Byddem wrth ein bodd yn ymgysylltu â mwy o orsafoedd radio ysbytai yn y dyfodol felly cadwch lygad ar YCC Cymru yn 2024!