Yn ddiweddar, mynychodd cynrychiolwyr o Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru Gyngres Tocsicoleg Glinigol Gogledd America yn San Francisco, 14-18 Medi 2022. Gwnaeth cannoedd o gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd fynychu’r gynhadledd gan gynnwys o Awstralia, Awstria, Canada, Mecsico, Ynysoedd Phillippines, De Korea, Taiwan, Gwlad Thai a Fietnam.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys ystod eang o gyflwyniadau hynod berthnasol gan gynnwys symposia cyn y gynhadledd ar wenwyndra cardiofasgwlaidd a’r agweddau gwenwyneg gyfreithiol a fforensig ar lofruddiaeth trwy wenwyno. Cafwyd prif ddarlith ddiddorol ar wenwyno gan sgorpionau a nifer o gyflwyniadau diddorol eraill, gan gynnwys ar y gwahaniaethau mewn gweithrediadau canolfannau gwenwynau, rôl ocsigenu drwy bilen allgorfforol (ECMO) wrth reoli achosion o wenwyno, a throsolwg o achosion o Syndrom Havana. Roedd uchafbwyntiau eraill rhaglen y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar:
· Perlysiau ac atchwanegiadau deietegol
· Gwenwyno
· Mwy o achosion o ddod i gysylltiad â chanabis ymhlith cleifion pediatrig, ac
· Arfer Gorau Canolfannau Gwenwynau
Mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle gwerthfawr i holl gynrychiolwyr NPIS ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach mewn tocsicoleg glinigol, rhyngweithio a rhwydweithio ag ystod eang o gydweithwyr o bob cwr o'r byd, a rhannu a dysgu o brofiad canolfannau gwenwynau eraill mewn gwahanol wledydd.
Mae'r gynhadledd wedi paratoi staff ymhellach i ymdrin â'r amrywiaeth eang o ymholiadau am wenwynau a dderbyniwyd gan Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru, ac wedi darparu nifer o syniadau ar sut y gellir gwella'r gwasanaeth ymhellach er budd ymholwyr.
Cyhoeddir rhestr lawn o grynodebau yn y cyfnodolyn Clinical Toxicology ac maent ar gael yma.