Neidio i'r prif gynnwy

Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru yn Cyflwyno Cwrs Hyfforddi Rhyngwladol TOXBASE, Almaty, Kazakhstan

Yn ddiweddar, cyflwynodd Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (WNPU) gwrs hyfforddi rhyngwladol deuddydd a ariannwyd gan WHO ar TOXBASE® ddiwedd mis Hydref 2022, yn Almaty, Kazakhstan. Roedd dros 50 o gynrychiolwyr yn bresennol o bob rhan o Ganol Asia, gan gynnwys o’r wlad a oedd yn cynnal y digwyddiad, sef Kazakhstan, yn ogystal ag Uzbekistan, Tajicistan, Pacistan, Kyrgyzstan a Mongolia.

Daeth y mynychwyr o amrywiaeth o gefndiroedd meddygol gwahanol gan gynnwys tocsicoleg, iechyd y cyhoedd, gwasanaethau brys a disgyblaethau meddygaeth eraill. Recordiwyd y digwyddiad, cafodd ei gyfieithu ar y pryd i Rwsieg, a'i ddarlledu ar-lein i fynychwyr nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn bersonol. Roedd y pynciau’n cynnwys:

· Cyflwyniad i Ddefnyddio TOXBASE®,

· Rheoli Gwenwyno â Nwy Sarin,

· Rheoli Gwenwynau Anhysbys,

· Gwenwyno â Phlaladdwyr,

· Tanau mewn Lleoliadau Cyhoeddus,

· Halogiad Bwyd a Diod, a

· Rhyddhau Nwyon Gwenwynig.

Derbyniodd y digwyddiad adborth cadarnhaol ac roedd yn gyfle gwych i’r WNPU ymgysylltu â thimau rhyngwladol, a’u helpu i wella eu dealltwriaeth a’u gallu i ddefnyddio TOXBASE® yn eu gwledydd eu hunain ac mewn amgylchiadau penodol.

I gael rhagor o wybodaeth am ddarparu hyfforddiant ar TOXBASE®, neu bynciau gwenwyno eraill, cysylltwch ag Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru yn uniongyrchol yn: poisons.information@wales.nhs.uk

Dilynwch AWTTC: