Neidio i'r prif gynnwy

Tocsicoleg Feddygol 2022, 7-8 Hydref, Caerdydd, y DU

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol (Caerdydd) gwrs dau ddiwrnod dwys ar ddatblygiad proffesiynol Tocsicoleg Feddygol, rhwng 7-8 Hydref, yng nghanol dinas Caerdydd. Daeth bron i hanner cant o gynrychiolwyr cenedlaethol a rhyngwladol i'r digwyddiad, gan gynnwys ystod eang o glinigwyr y GIG, gwyddonwyr gwybodaeth o wahanol ganolfannau rheoli gwenwynau, a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy'n astudio Meddygaeth a/neu Wenwyneg Feddygol eleni. 

Cyflwynodd nifer o arbenigwyr tocsicoleg nodedig o bob rhan o'r DU ystod addysgiadol o bynciau gwenwynegol fel gwenwyno yn ystod beichiogrwydd, gwenwyno pediatrig, datblygiadau newydd mewn gwenwyno â paracetamol, tocsicoleg ymbelydredd, gwenwyn plwm, a gwenwyndra cardiofasgwlaidd. Cyflwynwyd sesiynau mewn fformatau traddodiadol ar ffurf darlithoedd ac mewn arddulliau mwy rhyngweithiol, megis 'ystafelloedd dianc' a chwisiau. Roedd y trefniadau hyn yn caniatáu cydbwysedd da rhwng dysgu mwy academaidd, yn ogystal â darparu cyfleoedd defnyddiol ar gyfer rhyngweithio rhwng cynrychiolwyr a chyflwynwyr. Yn gyffredinol, cafodd y cwrs groeso da a darparodd gyfleoedd dysgu a rhwydweithio gwerthfawr i bawb a gymerodd ran. 

Mae'r cwrs Tocsicoleg Feddygol nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer 6-7 Hydref 2023 yng Nghaerdydd a bydd yn cael ei hysbysebu'n agosach at yr amser. Yn y cyfamser, am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: tox.course@wale.nhs.uk 

Dilynwch AWTTC: