12 Gorffennaf 2024
Yn ddiweddar cymerodd aelod o WNPU ran mewn menter Canolfan Ragoriaeth Lliniaru Risg Gemegol, Fiolegol, Radiolegol a Niwclear (CBRN) .
Gwnaeth Eleri Thomas, Arbenigwr Gwybodaeth am Wenwynau, weithio ochr yn ochr â sawl aelod o dîm Prosiect 87 PRECA (Bod yn Barod ac Ymateb i Ddigwyddiadau Torfol a Bygythiadau Iechyd eraill yng Nghanolbarth Asia) mewn menter hyfforddi a weithredwyd gan y Ganolfan Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ryngwladol (ISTC). Hoffai Eleri a'i chydweithwyr longyfarch ISTC ar gyrraedd 30 mlynedd o weithredu; yn cynnal diogelwch byd-eang a hyrwyddo astudiaethau gwyddonol heddychlon.
Teithiodd Eleri i Ulaanbaatar, Mongolia a bu'n cymryd rhan yn bennaf fel hwylusydd arbenigol mewn ymarfer pen bwrdd efelychu. Roedd yr ymarfer yn canolbwyntio ar barodrwydd a chynlluniau ymateb gwledydd partner Canolbarth Asia mewn ymateb i'w strategaethau wrth ymdrin â senarios digwyddiadau torfol (diogelwch bwyd a darparu dŵr diogel, gan warchod rhag bygythiadau cemegol a systemau cyfathrebu).
Cafodd hwyluswyr lleol a chyfranogwyr ymarfer eu cefnogi gan Eleri a sicrhaodd fod yr amcanion efelychu o fewn yr ymarfer yn cael eu cyflawni. Arweiniodd Eleri sesiwn dadfriffio gwerthuso, gan nodi heriau a bylchau a'r 'gwersi a ddysgwyd' o fewn yr ymarfer hyfforddi. Bydd adroddiad P87 cyfunol, yn cynnwys yr arsylwadau hyn, ar gael yn fuan ar wefan ISTC.
Cynhaliwyd cyfarfod hyfforddi P87 pellach yn Astana, Kazakhstan. Rhoddodd Eleri gyflwyniadau i aelodau'r Gweithgor Rhanbarthol cemegol. Roedd y cyflwyniadau’n cynnwys: rheoli cleifion a oedd wedi eu gwenwyno ar ôl llyncu paracetamol yn fwriadol ac yn anfwriadol, ac arddangos y defnydd o UKPID (Cronfa Ddata Gwybodaeth am Wenwynau’r Deyrnas Unedig), a ddefnyddir gan NPIS y DU. Cyfrannodd Eleri hefyd at drafodaethau manwl ynghylch y nodweddion angenrheidiol ar gyfer sefydlu canolfannau Rheoli Gwenwyn. Roedd pawb yn gwerthfawrogi ei phrofiad a’i gwybodaeth, fel gwyddonydd Gwybodaeth am Wenwynau profiadol.