Yr wythnos ddiwethaf, teithiodd y tîm i Gaeredin ar gyfer digwyddiad CPD deuddydd a gynhaliwyd gan NPIS Caeredin. Roedd yn ddau ddiwrnod gwych o gyflwyniadau, yn ogystal â chyfle i ddal i fyny gyda chydweithwyr NPIS ac i rwydweithio â siaradwyr a mynychwyr eraill.
Roedd cyflwyniadau’r diwrnod cyntaf yn cynnwys y pynciau canlynol: treialu flumasenil cyn cyrraedd yr ysbyty mewn cleifion anymwybodol (Treial RUFUS), adolygiad o’r defnydd o inswlin dos uchel fel yr adroddwyd i’r NPIS, achosion o wenwyno gan fadarch yn sgil chwilota am fwyd gwyllt yn y DU, gwyliadwriaeth gwenwynau ledled Ewrop, a datblygu gallu o dan y Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (IHR). Cafwyd hefyd rai cyflwyniadau arbennig o ddiddorol am gymorth cyfoedion mewn adrannau brys yn yr Alban, tueddiadau newydd mewn defnydd cetamin, a thueddiadau cyffuriau a nodwyd gan System Rhybudd Cynnar Cyffuriau’r Alban.
Roedd yr ail ddiwrnod yn cynnwys trafodaethau am fusnes y NPIS, gwella gwasanaethau a rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd, yn ogystal â chyflwyniadau ar orddos amlfitaminau mewn plant, cymhlethdodau atchwanegiad sinc, achos o orddos NAC iatrogenig, profiadau o wenwyno yn Algeria, a thueddiadau newidiol mewn opioidau synthetig, anesthetigau milfeddygol a methamffetamin.
Diolch i’r trefnwyr, y siaradwyr, ac i NPIS Caeredin am gynnal digwyddiad CPD mor wych. Edrychwn ymlaen at weld pawb yn yr un nesaf!