13 Tachwedd 2026
Cyflwynodd Shaila Ahmed, Uwch Fferyllydd yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), boster AWTTC yng Nghynhadledd Flynyddol y Coleg Brenhinol Fferylliaeth (RCPharm) yn Llundain ar 6 Tachwedd 2026.
Daeth y gynhadledd â gweithwyr fferyllol proffesiynol o bob rhan o'r DU ynghyd i rannu gwybodaeth, ymchwil ac arfer gorau. Hon oedd y gynhadledd flynyddol gyntaf ers i'r sefydliad ddod yn Goleg Brenhinol Fferylliaeth.
O dan y thema Arwain rhagoriaeth mewn fferylliaeth – cydweithio, arloesi ac effaith, roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau yn archwilio diogelwch cleifion, rhagnodi gan fferyllwyr, datblygu'r gweithlu, deallusrwydd artiffisial a dyfodol ymarfer fferylliaeth.
Cyflwynodd Shaila boster â'r teitl Dull Cenedlaethol o Optimeiddio Hyd y Cwrs Gwrthfiotig yng Nghymru, gan dynnu sylw at ddatblygiad, gweithrediad ac effaith y Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol (NPI) ar gyfer hyd y cwrs gwrthfiotig.
Nod y fenter yw annog y defnydd o gyrsiau gwrthfiotig pum niwrnod, lle bo'n briodol yn glinigol, ar gyfer heintiau'r llwybr anadlol heb gymhlethdodau ledled Cymru. Drwy gefnogi rhagnodi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae'r gwaith yn cyfrannu at stiwardiaeth wrthficrobaidd ac yn helpu i sicrhau bod gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio'n gyfrifol.
Mae crynodeb o'r poster hefyd wedi'i gyhoeddi yn yr International Journal of Pharmacy Practice a gellir ei ddarllen yma.
Rhoddodd y gynhadledd gyfle gwerthfawr i arddangos gwaith AWTTC mewn optimeiddio meddyginiaethau a stiwardiaeth wrthficrobaidd, rhannu dysgu a chysylltu â chydweithwyr fferylliaeth o bob rhan o'r DU.