Yr wythnos diwethaf mynychodd rhai o’r tîm i Gyngres 46ain Cymdeithas Ewropeaidd Canolfannau Gwenwyn a Thocsicolegwyr Clinigol yn Vilnius, Lithwania.
Roeddem yn falch iawn o gyflwyno 6 phoster yn ystod y cynhadledd, gan gynnwys achos o weinyddu rocuroniwm yn fwriadol, oedema ymennyddol mewn gwenwyno methanol, arbenigedd amlddisgyblaethol SPIs ar draws canolfannau gwenwyn y DU, gorddos damweiniol o feddyginiaethau gwrth-orbwysedd yng Nghymru, a gorddos o analgesia oherwydd poen dannedd yn ystod COVID-19.
Yn ogystal, rhoddodd un o’n gwyddonwyr, Natalie Price gyflwyniad llafar rhagorol am methemoglobinaemia sy’n gysylltiedig â dapsone a adroddwyd i Wasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol y DU (NPIS), ac fe gafodd dderbyniad da iawn.
Hoffem ddiolch i’r trefnwyr am gynhadledd wych. Roedd y cyflwyniadau yn ysbrydoledig ac wedi rhoi llawer o syniadau i ni ar gyfer ymchwil tocsicoleg yn y dyfodol. Roedd yn wych cyfarfod â chydweithwyr mewn tocsicoleg glinigol o’r DU a ledled y byd, a rydym yn edrych ymlaen at eich gweld eto ym Malta yn 2027!