Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Fferyllydd a'r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Cymunedol, Emyr Jones, wedi ymuno ag AWTTC

17 Ebrill 2026

Mae Emyr Jones wedi ymuno â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) fel Fferyllydd Ymgynghorol ac Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Cymru: Gofal Iechyd Cymunedol, gyda'r rôl genedlaethol sefydledig yn trosglwyddo i AWTTC.

Mae gan Emyr brofiad helaeth mewn gofal iechyd cymunedol ac arweinyddiaeth fferyllol, ynghyd â hanes cadarn o ddatblygu gwasanaethau sy'n cefnogi cleifion yn agosach at gartref, a hefyd ar draws lleoliadau gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol. Yn ei rôl, mae'n darparu arweinyddiaeth genedlaethol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac optimeiddio’r defnydd o feddyginiaethau ar draws lleoliadau gofal iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r newid hwn yn adlewyrchu’r gwaith parhaus i gryfhau cydlynu cenedlaethol mewn gofal iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol, gan gefnogi aliniad agosach â gwaith AWTTC i wella'r defnydd diogel, effeithiol ac effeithlon o feddyginiaethau ar draws GIG Cymru a systemau iechyd a gofal ehangach.

Mae Emyr yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol, gan gydweithio â phartneriaid ar draws GIG Cymru, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol i wella’r gwasanaethau a ddarperir, hyrwyddo arfer gorau, a gwella canlyniadau cleifion.

Yn AWTTC, mae'n cyfrannu at raglenni strategol sydd â'r nod o wella ansawdd, diogelwch ac effeithlonrwydd y defnydd o feddyginiaethau. Mae ei arbenigedd yn helpu i lunio polisïau a mentrau sy'n cefnogi’r broses o ddarparu gofal iechyd cynaliadwy ac yn ymateb i anghenion esblygol cleifion a chymunedau, gan gynnwys y rhai sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a phreswyl.

Mae trosglwyddo'r rôl genedlaethol sefydledig hon i AWTTC yn cryfhau ymhellach arweinyddiaeth amlddisgyblaethol y sefydliad a'i ymrwymiad i gefnogi gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dilynwch AWTTC: