24 Ionawr 2024
Ym mis Ionawr 2024 cyhoeddwyd papur gan Florence Vincent, John Thompson, Laurence Gray, Sally Bradberry, Euan Sandilands, Ruben Thanacoody a David Tuthill ar "Gwallau meddyginiaeth sy'n cynnwys paracetamol mewnwythiennol mewn plant: profiad o ymholiadau i'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau" (cyn print) yn yr Archives of Disease in Childhood.
Mae'r papur yn darparu'r data cenedlaethol cyntaf yn y DU sy'n canolbwyntio ar wenwyn paracetamol mewnwythiennol (IV) pediatrig. Mae plant yn wynebu mwy o berygl o wallau meddyginiaeth oherwydd cymhlethdod y broses o ragnodi a gweinyddu cyffuriau yn y grŵp cleifion hwn. Canfu'r awduron ei bod yn ymddangos bod gorddos paracetamol IV anfwriadol yn digwydd yn amlach mewn plant ifanc; roedd cyfran sylweddol yn wallau cyfrifo a oedd yn aml yn wallau 10 plyg. Er bod gan y gwallau hyn y potensial i achosi niwed difrifol, diolch byth roedd y rhan fwyaf o achosion yn asymptomatig. Gellid lleihau gwallau gyda paracetamol IV trwy systemau cymorth rhagnodi electronig, gwell cyfathrebu ynghylch gweinyddu ac ystyried a yw llwybrau eraill yn fwy priodol.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma.
Mae rhestr lawn o 380+ o gyhoeddiadau ymchwil AWTTC ar ein gwefan. Mae'r rhestr chwiliadwy yn caniatáu i gleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r diwydiant ddysgu mwy am waith AWTTC ac archwilio ein hymchwil gyhoeddedig.