Neidio i'r prif gynnwy

Mae AWTTC wedi diweddaru ei ddulliau a phrosesau asesu technoleg iechyd (HTA)

Mae newidiadau allweddol yn cynnwys dileu'r addasydd diwedd oes a chyflwyno 'addasydd difrifoldeb' newydd, a ddisgrifir ym Mholisi newydd AWMSG ar gyfer gwerthuso meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau difrifol. Bydd yr 'addasydd difrifoldeb' o fudd i bobl sy'n byw gydag ystod o gyflyrau, gan gynnwys cyflyrau diwedd oes a chyflyrau gwanychol difrifol.

Mae AWMSG hefyd wedi diweddaru ei bolisi ar gyfer gwerthuso meddyginiaethau a ddatblygwyd yn benodol i drin clefydau prin iawn i gyd-fynd â meini prawf y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer technolegau tra arbenigol (HST). Gellir dod o hyd i ddau bolisi AWMSG o dan ' Pob dogfen arfarnu ' ar wefan AWTTC.

Argymhellodd AWMSG y newidiadau hyn ar ôl adolygiad o’i ddulliau a phrosesau arfarnu HTA yn 2022. Cynhaliwyd yr adolygiad ar ôl i NICE gyhoeddi diweddariadau i’w lawlyfr prosesau a dulliau HTA. Roedd angen adolygiad AWMSG i gysoni dulliau HTA rhwng y ddau sefydliad, ac i alluogi mynediad teg at feddyginiaethau yng Nghymru.

Dilynwch AWTTC: