30 Ebrill 2026
Mynychodd tîm Canolfan Cerdyn Melyn Cymru (YCC Cymru) Gynhadledd Imiwneiddio Cymru ar 24 Ebrill, lle cynhaliwyd stondin wybodaeth i godi ymwybyddiaeth o gynllun adrodd y Cerdyn Melyn a hyrwyddo diogelwch cleifion.
Drwy gydol y dydd, bu Dr Alison Thomas, Cyfarwyddwr Meddygol YCC Cymru ac Alana Adams, Prif Fferyllydd Gwasanaeth Cynghori ar Feddyginiaethau Cymru (WMAS) yn ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru, gan ddarparu gwybodaeth ar sut i adnabod ac adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau, sgîl-effeithiau brechlynnau, a materion yn ymwneud â meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol. Cafodd y mynychwyr gyfle hefyd i ddysgu mwy am dueddiadau adrodd diweddar a'r rôl bwysig y mae cynllun y Cerdyn Melyn yn ei chwarae wrth fonitro diogelwch meddyginiaethau a brechlynnau.
Rhoddodd y gynhadledd gyfle gwerthfawr i rwydweithio â chydweithwyr sy'n ymwneud â gwasanaethau imiwneiddio ac i dynnu sylw at bwysigrwydd gwyliadwriaeth ac adrodd parhaus wrth gefnogi iechyd y cyhoedd a diogelwch cleifion ledled Cymru.