25 Hydref 2024
Yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Vale ym mis Medi, derbyniodd uwch fferyllydd AWTTC Richard Boldero a’r Meddyg Ymgynghorol Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru Sian Evans, y wobr Cynaliadwyedd mewn Gofal Iechyd ar ran Grŵp Gorchwyl a Gorffen Datgarboneiddio Mewnanadlyddion.
Mae'r Grŵp, sy'n cael ei gadeirio gan Sian, yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a chenhedloedd eraill y DU i ddarparu cefnogaeth gydlynol i leihau'r ôl troed carbon sy'n gysylltiedig ag anadlyddion. Mae gwaith AWTTC gyda'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys cynhyrchu dangosfyrddau, adroddiadau monitro misol, canllawiau rhagnodi, yn ogystal â datblygu ffilm gwybodaeth i gleifion ar ragnodi, defnyddio a gwaredu mewnanadlyddion. Mae'r holl waith hwn yn helpu'r GIG yng Nghymru i gyflawni targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.
Gwyliwch a rhannwch y ffilm gwybodaeth i gleifion:
Ym mis Tachwedd 2023 cyhoeddodd AWMSG strategaeth ar gyfer datgarboneiddio mewnanadlyddion a sefydlwyd y grŵp Gorchwyl a Gorffen. Darllenwch fwy am y strategaeth yma.