Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yw'r cyntaf i gymeradwyo mynediad rheolaidd i dostarlimab (Jemperli) ar gyfer canser y rectwm

Gall cleifion yn GIG Cymru sydd â math penodol o ganser y rectwm, bellach gael mynediad at feddyginiaeth a allai atal yr angen am lawdriniaeth ymyrrol sy'n newid bywyd.

Cafodd penderfyniad Meddyginiaethau Cymru'n Un i gymeradwyo mynediad i dostarlimab (Jemperli®) i drin canserau y rectwm datblygedig lleol gyda mwtaniad genetig penodol ei gymeradwyo gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2023.

'Mae hwn yn ganlyniad gwych i'r cleifion yng Nghymru. Mae bod y wlad gyntaf yn rhyngwladol i gael mynediad i'r driniaeth hon fel opsiwn i'r grŵp cleifion hwn yn gyffrous. Byddwn yn ennill llawer iawn o brofiad a data wrth ddefnyddio dostarlimab(Jemperli ® ) yn y lleoliad clinigol hwn i'w rannu gyda'r gymuned fyd-eang.'

Dr Barrington, oncolegydd clinigol ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ar hyn o bryd nid yw Dostarlimab wedi'i drwyddedu i drin unrhyw fath o ganser y rectwm datblygedig lleol. Hyd yn hyn dim ond trwy geisiadau am gyllid cleifion unigol y bu ar gael i gleifion y GIG. Mae'r penderfyniad hwn gan Cymru'n Un yn golygu y bydd pob claf yn GIG Cymru sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer triniaeth yn cael yr opsiwn i gael dostarlimab.

Mae'r math penodol o ganser y rectwm yn gwrthsefyll cemotherapi cyfredol. Y driniaeth arferol yw radiotherapi ac yna llawdriniaeth eithafol i dynnu rhan o'r colon. Gall hyn newid bywydau cleifion, a bydd gan lawer ohonynt stoma gydol oes.

Adroddwyd am ganlyniadau rhyfeddol mewn astudiaeth fach gan un ganolfan yn UDA, lle roedd pob claf a gafodd driniaeth â dostarlimab heb unrhyw ganser y gellid ei ganfod ar ôl triniaeth. Er bod y data hyn yn gyfyngedig oherwydd nad yw'r canlyniadau hirdymor yn hysbys eto, penderfynodd Grŵp Asesu Meddyginiaethau Cymru'n Un (OWMAG) y dylai dostarlimab fod ar gael fel opsiwn i gleifion yng Nghymru, oherwydd gallai atal yr angen am lawdriniaeth sy'n newid bywyd.

Mae penderfyniad Meddyginiaethau Cymru'n Un yn un interim, a bydd yn cael ei adolygu ar ôl deuddeg mis. Mae hyn yn caniatáu i OWMAG ystyried tystiolaeth newydd, tymor hwy; er enghraifft, os yw cleifion yn parhau i fod yn rhydd o ganser yn y blynyddoedd ar ôl triniaeth.

Mae proses Meddyginiaethau Cymru'n Un yn caniatáu i gleifion GIG Cymru dderbyn triniaethau na fyddai fel arfer ar gael iddynt, ac yn sicrhau bod gan bob claf yng Nghymru fynediad teg at y meddyginiaethau mwyaf effeithiol cyn gynted â phosibl.

Darllenwch benderfyniad llawn Meddyginiaethau Cymru'n Un ar gyfer dostarlimab (Jemperli®) yma.

Mae mwy am broses Meddyginiaethau Cymru’n Un, gan gynnwys fideo newydd yn esbonio sut mae’r broses yn gweithio ar gael yn https://cttcg.gig.cymru/mynediad-at-feddyginiaethau/mynediad-at-feddyginiaethau-yng-nghymru/proses-meddyginiaethau-cymrun-un/

Dilynwch AWTTC: