Gall cleifion yn GIG Cymru sydd â math penodol o ganser y rectwm, bellach gael mynediad at feddyginiaeth a allai atal yr angen am lawdriniaeth ymyrrol sy'n newid bywyd.
Cafodd penderfyniad Meddyginiaethau Cymru'n Un i gymeradwyo mynediad i dostarlimab (Jemperli®) i drin canserau y rectwm datblygedig lleol gyda mwtaniad genetig penodol ei gymeradwyo gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2023.
|
'Mae hwn yn ganlyniad gwych i'r cleifion yng Nghymru. Mae bod y wlad gyntaf yn rhyngwladol i gael mynediad i'r driniaeth hon fel opsiwn i'r grŵp cleifion hwn yn gyffrous. Byddwn yn ennill llawer iawn o brofiad a data wrth ddefnyddio dostarlimab(Jemperli ® ) yn y lleoliad clinigol hwn i'w rannu gyda'r gymuned fyd-eang.' Dr Barrington, oncolegydd clinigol ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
Ar hyn o bryd nid yw Dostarlimab wedi'i drwyddedu i drin unrhyw fath o ganser y rectwm datblygedig lleol. Hyd yn hyn dim ond trwy geisiadau am gyllid cleifion unigol y bu ar gael i gleifion y GIG. Mae'r penderfyniad hwn gan Cymru'n Un yn golygu y bydd pob claf yn GIG Cymru sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer triniaeth yn cael yr opsiwn i gael dostarlimab.
Mae'r math penodol o ganser y rectwm yn gwrthsefyll cemotherapi cyfredol. Y driniaeth arferol yw radiotherapi ac yna llawdriniaeth eithafol i dynnu rhan o'r colon. Gall hyn newid bywydau cleifion, a bydd gan lawer ohonynt stoma gydol oes.
Adroddwyd am ganlyniadau rhyfeddol mewn astudiaeth fach gan un ganolfan yn UDA, lle roedd pob claf a gafodd driniaeth â dostarlimab heb unrhyw ganser y gellid ei ganfod ar ôl triniaeth. Er bod y data hyn yn gyfyngedig oherwydd nad yw'r canlyniadau hirdymor yn hysbys eto, penderfynodd Grŵp Asesu Meddyginiaethau Cymru'n Un (OWMAG) y dylai dostarlimab fod ar gael fel opsiwn i gleifion yng Nghymru, oherwydd gallai atal yr angen am lawdriniaeth sy'n newid bywyd.
Mae penderfyniad Meddyginiaethau Cymru'n Un yn un interim, a bydd yn cael ei adolygu ar ôl deuddeg mis. Mae hyn yn caniatáu i OWMAG ystyried tystiolaeth newydd, tymor hwy; er enghraifft, os yw cleifion yn parhau i fod yn rhydd o ganser yn y blynyddoedd ar ôl triniaeth.
Mae proses Meddyginiaethau Cymru'n Un yn caniatáu i gleifion GIG Cymru dderbyn triniaethau na fyddai fel arfer ar gael iddynt, ac yn sicrhau bod gan bob claf yng Nghymru fynediad teg at y meddyginiaethau mwyaf effeithiol cyn gynted â phosibl.
Darllenwch benderfyniad llawn Meddyginiaethau Cymru'n Un ar gyfer dostarlimab (Jemperli®) yma.
Mae mwy am broses Meddyginiaethau Cymru’n Un, gan gynnwys fideo newydd yn esbonio sut mae’r broses yn gweithio ar gael yn https://cttcg.gig.cymru/mynediad-at-feddyginiaethau/mynediad-at-feddyginiaethau-yng-nghymru/proses-meddyginiaethau-cymrun-un/