Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2023

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn gasgliad o gamau gweithredu i gefnogi fferylliaeth gymunedol, ymarfer deintyddol cymunedol, optometreg gymunedol ac ymarfer cyffredinol i wella cynaliadwyedd amgylcheddol eu harferion o ddydd i ddydd ac i gyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. 

Ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn 2022, bydd y Cynllun yn ail-lansio ar gyfer 2023 ym mis Mawrth. Mae’r fframwaith wedi’i adolygu a’i ddatblygu ymhellach gan ein Grŵp Arbenigol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r pedwar lleoliad gofal sylfaenol.  

Mae’r camau gweithredu’n glinigol ac yn anghlinigol, sy’n golygu y gall y tîm cyfan gymryd rhan, ac mae’n cwmpasu categorïau fel caffael, gwastraff, adeiladau ac ystadau, a thrafnidiaeth a gweithio clyfar (mae’r rhain wedi’u halinio â’r themâu yng Nghynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru). 

Roedd gan dimau o 2022 hyn i’w ddweud am y Cynllun: 

  • “Tynnodd sylw at y gorgyffwrdd rhwng arfer gwyrddach a rheoli busnes craff.” 

  • “Roedd y Fframwaith yn chwa o awyr iach ar ôl Covid.” 

  • “Roedd yn wych cael yr holl staff, clinigol ac anghlinigol, i gymryd rhan yn y gwaith.” 

Gall practisau ddewis pa gamau y maent am weithio arnynt ac, yn dibynnu ar gynnydd, bydd practisau'n cael gwobr 'gweithio tuag at', efydd, arian neu aur ar ddiwedd y flwyddyn.  

Os ydych yn awyddus i gymryd rhan yn 2023 ac eisiau bod y cyntaf i ddarganfod pryd y bydd y Cynllun yn ailagor yn ogystal â datblygiadau cyffrous eraill, cofrestrwch eich diddordeb yma

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun yn Gofal Sylfaenol Un

Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau at greenerprimarycare@wales.nhs.uk

Dilynwch AWTTC: