Neidio i'r prif gynnwy

Eisteddfod yr Urdd 2023

Yn ddiweddar mynychodd yr Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (UGCC) i Eisteddfod yr Urdd yn Llanmynddyfri (29 Mai – 03 Mehefin), ynghyd â AWTTC a'r Ganolfan Cerdyn Melyn buom yn rheoli stondin ‘Helpu i Wneud Meddyginiaethau yn Fwy Diogel’. Bwriad y stondin oedd i ddarparu gwybodaeth atal gwenwyno i’r cyhoedd ac i ymgysylltu gyda gweithiwyr iechyd proffesiynol yn yr Eisteddfod.

Drwy gydol yr Eisteddfod roedd yr UGCC yn cynnig taflenni gwybodaeth i dynnu sylw at wenwynau posibl yn y cartref, rhannu gwybodaeth am blanhigion a ffyngau gwenwynig ac yn rhoi awgrymiadau cymorth cyntaf gwenwynau. Rhan o’r allgymorth oedd i ganolbwyntio’n bendol ar gysylltu gyda’r plant. Roedd hyn yn cynnwys cwis gwenwynau lle roedd y plant yn graddio gwenwyndra cynhyrchion o’r rhai mwyaf peryglus i’r lleiaf niweidiol, a gweithgareddau i geisio esbonio peryglon batris botwm ac olewau hanfodol, a’u helpu i ddeall bod gwrthgwenwyn ar gael ar gyfer brathiadau gwiber. Roedd y plant wedi mwynhau’r anrhegion a’r gwobrau cystadleuaeth oedd ar gael am gymryd rhan.

Rhan hanfodol o’r allgymorth oedd cysylltu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol oedd yn defnyddio y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) yn barod; oeddynt unai wedi rhoi adborth gwych neu yn gadael gyda fwy o wybodaeth am beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig.

Ar y cyfan roedd yr ymweliad i’r Eisteddfod yn lwyddiant, roeddwn wedi gallu darparu gwybodaeth atal gwenwyno gwerthfawr i’r cyhoedd ac i weithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth am waith yr NPIS drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae ein taflenni gwybodaeth am atal gwenwyno a chymorth cyntaf gwenwynau i gyd ar gael i lawrlwytho yma: www.gwenwyn.cymru.

 

Dilynwch AWTTC: