Neidio i'r prif gynnwy

Dr Sophie Harding yn ymuno ag AWTTC i arwain y ddarpariaeth ffarmacogenomeg yng Nghymru

10 Ebrill 2026

Ymunodd Dr Sophie Harding, Fferyllydd Ymgynghorol ar gyfer Genomeg a Ffarmacogenomeg â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ar 1 Ebrill.

Mae gan Dr Harding arbenigedd sylweddol mewn ffarmacogenomeg (PGx) ac mae eisoes wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio ei ddyfodol yng Nghymru. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu Cynllun Cyflawni PGx ar gyfer Cymru 2026–2029, sy'n nodi strategaeth genedlaethol i ymgorffori profion ffarmacogenomig mewn ymarfer clinigol rheolaidd ar draws GIG Cymru. Nod y rhaglen yw gwella effeithiolrwydd triniaeth, lleihau adweithiau niweidiol i gyffuriau, a gwella canlyniadau cleifion.

Mae'r Cynllun Cyflawni wedi derbyn cadarnhad ffurfiol yn ddiweddar yn dilyn cymeradwyaeth gan y Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol a bwrdd Llywodraethu Partneriaeth Genomeg Cymru. Rhoddwyd cymeradwyaeth derfynol gan Fwrdd Rhaglen Gofal Cynlluniedig y GIG ar 24 Mawrth. Cymeradwywyd hefyd ddogfen ategol yn amlinellu'r gofynion adnoddau sydd eu hangen i weithredu'r cynllun yng Nghymru.

Mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i sefydlu'r fframwaith llywodraethu a'r strwythur rhaglen sydd eu hangen i gyflawni'r cynllun. Bydd Pwyllgor Goruchwylio PGx Cenedlaethol yn cael ei sefydlu i ddarparu arweinyddiaeth strategol ac arweiniad arbenigol. Bydd y pwyllgor hefyd yn gyfrifol am lywodraethu, monitro a sicrwydd, gan gynnwys darparu adroddiad ffurfiol ar gynnydd y rhaglen i Bartneriaeth Genomeg Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae penodiad Dr Harding yn AWTTC yn gam sylweddol ymlaen i ffarmacogenomeg yng Nghymru, gan gryfhau rôl AWTTC wrth gefnogi cyflawniad y rhaglen genedlaethol uchelgeisiol hon i wella gofal cleifion.

Dilynwch AWTTC: