Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Diogelwch Meddyginiaethau Canolfan Cerdyn Melyn Cymru 2023

Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ac roedd yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu YCC Cymru.

Mynychwyd y digwyddiad gan Swyddogion Diogelwch Meddyginiaethau, Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn, fferyllwyr/nyrsys sydd â diddordeb mewn diogelwch meddyginiaethau, ac aelodau o gymuned y dyfeisiau meddygol. Roedd cydweithwyr o'r MHRA a Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol.

Roedd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth enfawr o gyflwyniadau, o'r hyn sy'n digwydd i'ch Cerdyn Melyn a dyfodol fferylliaeth, i fyd rhyfeddol dyfeisiau meddygol. Roeddem yn ffodus iawn i gael cwmni’r Athro Phil Routledge, un o sylfaenwyr YCC Cymru, a phwy well i roi cyflwyniad i ni ar hanes adroddiadau’r Cerdyn Melyn a safbwynt Cymru. Roedd y mynychwyr wir yn gwerthfawrogi'r cyflwyniadau a oedd yn ymwneud â phrofiadau bywyd go iawn o ran diogelwch meddyginiaethau; braint oedd clywed Jermaine Harris yn siarad am gyflawniadau ei fab sydd â ffeibrosis systig, a hanes personol Geoff Spink o fywyd fel "Thalidomider". Gwnaeth y cyfan ein hatgoffa pam ein bod yn gwneud y gwaith rydym yn ei wneud.

Rhoddodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru, anerchiad egnïol a oedd yn amlygu’r angen hanfodol am ddull diogel o ragnodi a monitro meddyginiaethau, mewn byd lle mae nifer y presgripsiynau a meddyginiaethau newydd yn cynyddu. Gwnaeth hefyd fathu ymadrodd y dydd - "Mae bywyd yn dechrau yn 40!".

Hoffem ddiolch i'r Athro Phil Routledge a Phil Tregunno am ymgymryd â'r dasg anodd o feirniadu ein cystadleuaeth posteri. Roedd safon y gwaith wedi creu argraff fawr arnyn nhw, ynghyd â’r thema hollbwysig o fod eisiau rhoi newid cadarnhaol ar waith yn y sector gofal iechyd. Llongyfarchiadau i’r canlynol:

  • 1af – Nia Sainsbury (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg) – Flucloxacillin a paracetamol, cyfuniad cyffredin ond a allai fod yn beryglus
  • 2il – Rafael Baptista (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) – Offeryn Cofnodi Ymyrraeth Fferylliaeth newydd (xPIRT) i wella’r broses o optimeiddio meddyginiaethau, ymarfer rhagnodi a chanlyniadau iechyd
  • 3ydd – Jenna Walker a Hayley Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro) – cyd-ragnodi Tacrolimus a Clarithromycin mewn cleifion sy’n cael trawsblaniad arennol

Yn ogystal ag edrych ar y posteri, cafodd y mynychwyr gyfle hefyd i ymweld â nifer o stondinau gwybodaeth. Cafodd y rhain eu cynnal gan: YCC Cymru, AWTTC, Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol (NPIS), y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) a Your Medicines, Your Health (YMYH).

Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddathlu, myfyrio ac edrych i’r dyfodol, ac roedd yn wych gallu cynnal y diwrnod wyneb yn wyneb. Roedd y mynychwyr yn gallu rhwydweithio â chydweithwyr hen a newydd, a mwynhau sleisen o gacen siâp Charlie!

Hoffai YCC Cymru ddiolch i'r siaradwyr, y gwesteion a'r staff gwych am wneud pen-blwydd YCC Cymru yn 40 oed yn ddiwrnod i'w gofio.

Ymlaen at y 40 mlynedd nesaf!

Dilynwch AWTTC: