Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2023

Dathlwyd Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2023 ar ddydd Sul 17 Medi a bu’n gyfle gwych i hyrwyddo’r Cynllun Cerdyn Melyn ledled Cymru.

Trefnwyd digwyddiadau gan Hyrwyddwyr y Cerdyn Melyn, yn cwmpasu pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru ac mewn 17 o leoliadau i gyd. Roedd y digwyddiadau yn cynnwys stondinau hyrwyddo, yn arddangos addurniadau melyn, taflenni a nwyddau Cerdyn Melyn, a hyd yn oed bwyd ar y thema melyn!

Gwnaeth yr Hyrwyddwyr waith gwych yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol gydag arolygon rhyngweithiol, cwisiau am adroddiadau Cerdyn Melyn, a phosteri gwybodaeth am y Cynllun Cerdyn Melyn.

Roedd cannoedd o bobl ledled Cymru wedi ymwneud â’r digwyddiadau ac mae ein Hyrwyddwyr eisoes wrthi’n cynllunio digwyddiadau addysgu a hyrwyddo yn eu gweithleoedd yn y dyfodol.

Edrychwn ymlaen at ddathlu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2024!

Dilynwch AWTTC: