Cynhaliwyd y Diwrnod Arfer Gorau diweddaraf ar y testun ‘Effaith amgylcheddol meddyginiaethau’ ar 19 Gorffennaf 2022.
Roedd yn cynnwys 10 cyflwyniad gwahanol ar y gwaith optimeiddio meddyginiaethau rhagorol sy’n digwydd ledled Cymru i gefnogi strategaeth datgarboneiddio GIG Cymru, ac mae fideos o bob un o’r cyflwyniadau bellach ar gael i chi eu gweld.
Cadwch lygad ar ein gwefan a Twitter (@AWTTCcymraeg) i gael gwybodaeth am Ddiwrnodau Arfer Gorau yn y dyfodol.