Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn parhau i fod yn rhan o gydweithio rhyngwladol estynedig. Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd AWTTC gydweithrediad rhyngwladol gyda chydweithwyr o asiantaethau asesu technoleg iechyd (HTA) ar draws y DU, Awstralia a Chanada.
Mae’r cydweithio hwn wedi’i ymestyn ac mae bellach yn cynnwys:
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
- Asiantaeth Canada ar gyfer Cyffuriau a Thechnolegau ym maes Iechyd (CADTH)
- Adran Iechyd a Gofal Pobl Hŷn Llywodraeth Awstralia
- Gwella Gofal Iechyd yr Alban (Consortiwm Meddyginiaethau yr Alban (SMC) a Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban (SHTG))
- Technoleg Iechyd Cymru (HTW)
- Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC)
- Institut national d’excellence en santé et en services sociaux (INESSS), Quebec
- Pharmac, Seland Newydd
Mae meithrin partneriaethau buddiol gydag asiantaethau HTA rhyngwladol yn cefnogi ein huchelgais i esblygu’n barhaus trwy ddefnyddio cyfleoedd a heriau a rennir i ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â HTA. Bwriedir cydweithio ar dri maes blaenoriaeth ar gyfer 2023/2024:
- Dichonoldeb rhannu gwaith i gefnogi penderfyniadau HTA
- Sganio’r gorwel i nodi a pharatoi systemau gofal iechyd ar gyfer cyfleoedd a heriau’r dyfodol
- Cefnogi ymwybyddiaeth ar draws y grŵp o’r prosiectau gwyddoniaeth a dulliau y mae asiantaethau’n ymgymryd â nhw ac i ymgorffori cydweithredu yn y prosiectau hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am y cydweithio ar gael ar wefan NICE: International health technology assessment collaboration expands | News | News | NICE