Neidio i'r prif gynnwy

Dau uwch reolwr AWTTC yn ymddeol ar ôl 36 mlynedd gyfunol o wasanaeth

Ar ddechrau 2023 gwelwyd newidiadau mawr yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wrth i ddau aelod hirsefydlog o’r uwch dîm rheoli ymddeol.

Roedd Kath Haines wedi gweithio yn AWTTC am 16 mlynedd ac roedd yn Bennaeth Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU). Gadawodd ym mis Chwefror i fwynhau peth amser yn teithio gyda'i theulu. Roedd Kath yn aelod hynod werthfawr o'r tîm ac fe arweiniodd rai datblygiadau arloesol gan gynnwys: cyflwyno systemau Cyffuriau Cost Uchel Blueteq a Mynediad Cleifion, a datblygu dangosfwrdd Mewnanadlwyr Carbon.

Gwnaethom hefyd ffarwelio â Karen Samuels, Pennaeth Gwasanaeth Mynediad Cleifion i Feddyginiaethau (PAMS) a Rheoli Meddyginiaethau. Yn ystod ei 20 mlynedd yn AWTTC bu Karen yn allweddol wrth ddatblygu proses asesu technoleg iechyd (HTA) i Gymru. Dyfarnwyd Achrediad NICE i'r broses. Yn ddiweddar, bu’n cydweithio â chydweithwyr yn yr MHRA a NICE i lansio’r Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol a’r offeryn mynediad HTA.

Diolch i chi Karen a Kath, am eich gwasanaeth ymroddedig i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ac AWTTC. Diolch am sicrhau mynediad diogel, amserol a theg at feddyginiaethau i bobl sy’n byw yng Nghymru.

Dilynwch AWTTC: