20 Mawrth 2026
Mae AWTTC wedi rhyddhau fersiwn newydd o ddangosfwrdd Datgarboneiddio Anadlyddion, sydd bellach ar gael ar blatfform SPIRA. Mae'r diweddariad hwn yn cyflwyno sawl newid pwysig sydd wedi'u cynllunio i wella'r broses o fonitro defnydd anadlyddion ar draws gofal sylfaenol yng Nghymru.
Mae diweddariadau allweddol yn cynnwys:
Caiff y newidiadau hyn eu hymgorffori yn adroddiadau ôl-troed carbon anadlyddion misol GIG Cymru dros y misoedd nesaf: Adroddiadau ôl-troed carbon anadlyddion GIG Cymru.
Mae dangosfwrdd datgarboneiddio anadlyddion newydd ar gael i bob defnyddiwr o fewn rhwydwaith GIG Cymru a gellir dod o hyd iddo yma: Dangosfwrdd datgarboneiddio anadlyddion newydd.
Bydd hen fersiwn y dangosfwrdd yn aros ar SPIRA am y tro. Bydd Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) 2026/2027 sy'n seiliedig ar anadlyddion yn defnyddio'r set ddata newydd hon ar gyfer adrodd o 1 Ebrill 2026.