Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliodd AWTTC ei ail ddiweddariad therapiwteg cyflym Dysgu dros Ginio

Mynychwyd y digwyddiad ar-lein gan ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr o bob cwr o Gymru.

Roedd y diweddariadau cryno yn cynnwys methiant y galon, dangosyddion rhagnodi cenedlaethol a Ffarmacogenomeg yn ogystal â'r holl newyddion diweddaraf gan AWTTC.

Y cyntaf i siarad oedd Dr Aaron Wong, Cardiolegydd Ymgynghorol a Meddyg yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr a gyflwynodd sesiwn ddiddorol ar fethiant y galon, y Fantastic Four, Ironman ac Agent K.

Nesaf gwnaeth Dr Geraint Jenkins, Cardiolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Methiant y Galon yn y Ganolfan Gardiaidd Ranbarthol, Abertawe a Vanessa Morton, Fferyllydd Clinigol, Estuary Group Practice, Tre-gŵyr bwysleisio’r angen i gleifion methiant y galon fod ar y feddyginiaeth gywir cyn gynted â phosibl ac i'r dosau uchaf posibl.

Rhoddodd Claire Thomas, Uwch Fferyllydd AWTTC, y wybodaeth ddiweddaraf am Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol a'u meysydd blaenoriaeth, gan ddangos sut mae dangosyddion rhagnodi cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau.

Nesaf gwnaethom glywed gan Sophie Harding, Arweinydd Ffarmacogenomeg o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a roddodd gyflwyniad diddorol iawn i ffarmacogenomeg a datblygiadau yng Nghymru a'r strategaethau a'r dulliau allweddol ar gyfer gweithredu genomig ledled y DU.

Mae fideos o'r sesiwn ar gael yma. Bydd ein digwyddiad Dysgu dros Ginio rhithwir nesaf yn cael ei gynnal ar 25 Mai rhwng 1pm a 2pm. Am fwy o wybodaeth neu i drefnu lle ewch i.

 

Dilynwch AWTTC: