Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor wedi'i gymeradwyo ar gyfer dwy feddyginiaeth a aseswyd trwy broses Meddyginiaethau Cymru'n Un

Mae Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd yng Nghymru wedi cymeradwyo cyngor ar gyfer dwy feddyginiaeth, infliximab a vedolizumab (Entyvio®), ar ôl eu hasesu drwy broses Meddyginiaethau Cymru’n Un.

Gellir defnyddio infliximab ar gyfer trin enterocolitis gradd 3-4 a achosir gan atalydd pwynt gwirio imiwnedd, lle nad yw'r symptomau wedi ymateb i wrthimiwnedd llinell gyntaf gyda corticosteroidau. Yn yr un modd, gellir defnyddio vedolizumab (Entyvio®) ar gyfer trin enterocolitis gradd 3-4 a achosir gan atalydd pwynt gwirio imiwnedd, lle nad yw'r symptomau wedi ymateb i wrthimiwnedd llinell gyntaf gyda corticosteroidau ac infliximab, neu pan fo infliximab yn anaddas.

Mae imiwnotherapi atalydd pwynt gwirio imiwnedd (ICI) yn ddatblygiad diweddar mewn triniaeth canser sy'n actifadu system imiwnedd y claf i ymosod ar y tiwmor. Fodd bynnag, un sgil-effaith gyffredin a difrifol o driniaeth ag ICIs yw enterocolitis a all gynnwys cyfog, chwydu, dolur rhydd, poen yn yr abdomen, a gwaed a mwcws yn y stôl. Y symptomau hyn yw'r rheswm mwyaf cyffredin dros darfu neu atal triniaeth gydag ICIs.

Ar ôl adolygu’r adroddiadau cryno o dystiolaeth (ESR) a luniwyd gan AWTTC, argymhellodd Grŵp Cynghori ar Feddyginiaethau Cymru’n Un (OWMAG) y dylai infliximab a vedolizumab (Entyvio ® ) fod ar gael i helpu i drin enterocolitis a achosir gan ICI lle nad yw’r symptomau wedi ymateb i driniaeth â corticosteroidau. Bydd gallu rheoli'r sgil-effaith hon yn gwneud y defnydd o ICIs i drin rhai canserau yn opsiwn mwy ymarferol i rai cleifion.

Mae'r defnydd o infliximab a vedolizumab yn y grwpiau cleifion a ystyriwyd yn ddidrwydded. Mae rhagnodwyr yn cael eu hatgoffa y dylid datgan yn glir y risgiau a’r manteision ar gyfer pob meddyginiaeth a’u trafod gyda chleifion neu eu gofalwyr er mwyn caniatáu caniatâd gwybodus, a dylai rhagnodwyr ymgynghori â’r canllawiau ar ragnodi meddyginiaethau didrwydded.

Bydd AWTTC yn adolygu'r cyngor ar gyfer pob meddyginiaeth ar ôl 12 mis neu'n gynt os daw tystiolaeth newydd i'r amlwg.

Mae mwy am broses Meddyginiaethau Cymru’n Un, gan gynnwys fideo newydd yn esbonio sut mae’r broses yn gweithio ar gael yn https://awttc.nhs.wales/one-wales

Dilynwch AWTTC: