Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyngor gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer un feddyginiaeth newydd.
Argymhellir Levodopa-carbidopa-entacapone (Lecigon®) ar gyfer defnydd cyfyngedig yn GIG Cymru i drin clefyd Parkinson datblygedig pan nad yw meddyginiaethau meddyginiaethau drwy’r geg yn cynhyrchu digon o effaith mwyach. Dim ond ar gyfer cleifion nad yw triniaeth ysgogi yn nwfn yr ymennydd yn addas ar eu cyfer y mae Levodopa-carbidopa-entacapone (Lecigon®) yn cael ei argymell.
Nid yw Levodopa-carbidopa-entacapone (Lecigon®) wedi'i farchnata yn y DU eto, bydd AWTTC yn diweddaru'r cyngor hwn pan fyddant yn cael cadarnhad bod y cynnyrch yn cael ei lansio.
Mae Gwasanaeth Mynediad Cleifion i Feddyginiaethau (PAMS) AWTTC yn cefnogi AWMSG i asesu a monitro meddyginiaethau newydd yng Nghymru.