Cyngor meddyginiaethau newydd ar gyfer GIG Cymru

29 Mai 2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyngor gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer tri meddyginiaeth.

  • Argymhellwyd ziconotide (Prialt) ar gyfer trin poen difrifol, hirdymor mewn oedolion sydd angen cael poenladdwyr trwy bigiad i'r gofod sy'n amgylchynu llinyn asgwrn y cefn a'r ymennydd (a elwir yn bigiad intrathecal).
  • Argymhellwyd guanfacine (Intuniv) rhyddhau hirfaith (PR) ar gyfer trin anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) mewn plant a phobl ifanc 6 i 17 oed, pan nad yw symbylyddion yn addas neu pan nad ydynt wedi gweithio. Rhaid defnyddio Guanfacine fel rhan o raglen driniaeth ADHD gynhwysfawr, a fyddai fel arfer yn cynnwys mesurau seicolegol, addysgol a chymdeithasol.
  • Argymhellwyd abiraterone i drin canser y prostad metastatig sy'n sensitif i hormonau risg uchel a oedd newydd ei ddiagnosio pan gaiff ei roi gyda prednisone neu prednisolone a'i gyfuno â therapi amddifadedd androgen (ADT).

Guanfacine ac abiraterone oedd y ddau feddyginiaeth gyntaf i gael eu hasesu o dan broses asesu meddyginiaethau wedi'i diweddaru AWMSG.

Mae Gwasanaeth Mynediad i Feddyginiaethau i Gleifion (PAMS) AWTTC yn cefnogi'r AWMSG i asesu a monitro meddyginiaethau newydd yng Nghymru.