Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor meddyginiaethau newydd ar gyfer GIG Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyngor gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer pedair meddyginiaeth.

  • Argymhellir tirbanibulin (Klisyri®) fel opsiwn ar gyfer trin caleden actinig ysgafn - ardal arw o’r croen sydd wedi datblygu mewn pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â gormod o haul dros gyfnod hir. Dim ond ar gyfer caleden actinig gwastad ar y wyneb a chroen y pen ymhlith oedolion y dylid defnyddio Tirbanibulin.
  • Argymhellir Clostridium botulinum type A toxin-haemagglutinin complex (Dysport®) i’w ddefnyddio mewn plant dwy oed neu’n hŷn, sydd â pharlys yr ymennydd, i drin sbasmau cyhyrau yn y breichiau.
  • Argymhellir ravulizumab (Ultomiris®) fel opsiwn i drin clefyd a elwir yn haemoglobulinemia nosol paroxysmal (PNH) mewn plant a phobl ifanc sy’n pwyso o leiaf 10kg. Mae hyn yn cynnwys cleifion sydd heb eu trin ag atalydd ategol a chleifion sydd wedi cael eculizumab am o leiaf y 6 mis diwethaf. Mae PNH yn gyflwr gwaed prin lle mae rhan o’r system imiwnedd yn orweithgar ac yn ymosod ar gelloedd coch y gwaed.
  • Argymhellir inclisiran (Leqvio®) fel opsiwn i’w ddefnyddio i ostwng lefelau colesterol mewn oedolion sydd â risg cardiofasgwlaidd uchel nad yw meddyginiaethau safonol wedi gostwng digon ar lefelau eu colesterol. Rhoddir Inclisiran trwy bigiad bob chwe mis, a gall fod yn opsiwn cyfleus i rai cleifion er mwyn rheoli eu cyflwr.
  • Ni argymhellir buprenorphine (Sixmo®) i drin dibyniaeth opioid mewn oedolion sydd hefyd yn cael cymorth meddygol, cymdeithasol a seicolegol. Mae Sixmo® yn cynnwys y sylwedd gweithredol buprenorphine, sy’n fath o feddyginiaeth opioid. Mae’n cael ei fewnblannu yn rhan uchaf y fraich i roi chwe mis o driniaeth.

Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG i asesu a monitro meddyginiaethau newydd yng Nghymru.

Dilynwch AWTTC: