Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad WNPU – Gwenwyn paracetamol IV pediatrig anfwriadol

Cyhoeddiad WNPU – Gwenwyno paracetamol IV pediatrig anfwriadol

Llongyfarchiadau i gyfarwyddwr yr Uned Wenwynau Cenedlaethol Cymru, Dr. Laurence Gray. Mae ei bapur “Camgyrmeriadau meddyginiaeth gyda paracetamol mewnwythiennol mewn plant: profiad o ymholiadau i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol” (NPIS) wedi’i cyhoeddi yn lwyddiannus yng nghyfnodolyn BMJ “Archives of Disease in Childhood” ym mis Ionawr 2024.

Roedd y papur yn gydweithrediad â Dr Florence Vincent o'r Ysbyty Rhydd Brenhinol, Llundain, Dr. David Tuthill o Ysbyty Plant Arch Noa i Gymru a chyd-gyfarwyddwyr unedau NPIS yn Birmingham, Caeredin a Newcastle. Mae'r papur hwn yn darparu'r darn cyntaf o ddata cenedlaethol yn y DU sy'n canolbwyntio ar wenwyno paracetamol IV pediatrig damweiniol, gan ddefnyddio gwybodaeth o ymholiadau dros y ffôn a wnaed i'r NPIS rhwng 2008 a 2021. Gweler crynodeb haniaethol isod:

Crynodeb

Cyflwyniad Mae plant mewn mwy o berygl o gamgymeriadau meddyginiaeth oherwydd cymlethdod presgripsiynu a gweinyddu cyffuriau yn y grŵp cleifion hwn. Mae gorddos paracetamol mewnwythiennol (IV) yn wahanol i orddos trwy lyncu gan nad oes byffer yn effeithio amsugnad o fewn y llwybr gastroberfeddol. Rydym yn darparu'r data cenedlaethol cyntaf yn y DU sy'n canolbwyntio ar wenwyno paracetamol pediatrig IV.

Dulliau Tynnwyd pob ymholiad ffôn i'r Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwynau Cenedlaethol rhwng 2008 a 2021 ynghylch plant llai na 18 oed yn y DU ynghylch gorddos paracetamol IV o Gronfa Ddata Gwybodaeth Gwenwynau'r DU (UKPID). Dadansoddwyd data gan ddefnyddio ystadegau disgrifiadol.

Canlyniadau Gwnaethpwyd ymholiadau ynghylch 266 o blant, yn bennaf yn ymwneud â phlant o dan 1 oed (n = 145; 54.5%). Gorddos aciwt neu cyfnodol oedd y mathau o amlygiad fwyaf cyffredin. Roedd themâu gwallau cyffredin yn cynnwys gorddos 10-gwaith mewn 45 achos (16.9%) a dosio ceg ac IV anfwriadol mewn 64 achos (24.1%). Roedd cyfran uchel o achosion heb symptomau (87.1%), gyda llawer o alwadau ynghylch gorddos o dan y dos triniaeth o 60 mg/kg (41.4%). Cynghorwyd triniaeth gyda'r gwrthgwenwyn acetylcysteine mewn 113 o achosion (42.5%).

Casgliadau Mae'n ymddangos bod gorddos paracetamol IV anfwriadol yn digwydd yn amlach mewn plant ifanc. Roedd cyfran sylweddol yn wallau cyfrifo a oedd yn aml yn wallau 10-gwaith. Er bod gan y gwallau hyn y potensial i achosi niwed difrifol, roedd y rhan fwyaf o achosion heb symptomau. Gellid lleihau gwallau gyda paracetamol IV trwy systemau cymorth rhagnodi electronig, gwell cyfathrebu ynghylch gweinyddu ac ystyried a yw llwybrau eraill yn fwy priodol.

I ddarllen y papur llawn, cliciwch yma.

Dilynwch AWTTC: