6 Tachwedd 2024
Mae'r Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol (ILAP) yn dechrau cyfnod newydd sy'n canolbwyntio ar gael y meddyginiaethau newydd mwyaf trawsnewidiol i gleifion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn gyflymach.
Nod yr ILAP yw cyflymu'r amser i gleifion gael gafael ar feddyginiaethau newydd trawsnewidiol, trwy ddarparu un platfform integredig ar gyfer cydweithio parhaus rhwng y datblygwr, y rheoleiddiwr (MHRA), y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a chyrff Asesu Technoleg Iechyd y DU (HTA) sef; Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Chonsortiwm Meddyginiaethau yr Alban (SMC).
Y prif welliannau i'r llwybr yw:
Mae cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd yn rhan annatod o'r ILAP, ac mae cynlluniau ar y gweill i wreiddio llais y claf mewn ffordd ystyrlon yn y llwybr. Yn ogystal, bydd partneriaid ILAP yn parhau i ymgysylltu â'r sector gwyddorau bywyd i sicrhau bod yr ILAP newydd yn darparu ar gyfer datblygwyr, y GIG a chleifion a'r cyhoedd.
Am fwy o wybodaeth ewch i Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol - GOV.UK