Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) – 6 Gorffennaf 2023

Cawsom gyfarfod diddorol ac addysgiadol arall gyda’r Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) ar 6 Gorffennaf. Mae fideos o’r cyflwyniadau bellach ar gael i’w gweld yma: https://cttcg.gig.cymru/papig

Roedd y cyfarfod rhithwir yn cynnwys sgyrsiau gan siaradwyr allanol ar sut i roi’r gorau i gyffuriau gwrth-iselder yn ddiogel, llinell gymorth meddyginiaethau i gleifion a gwneud gwybodaeth i gleifion yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Tynnodd AWTTC sylw hefyd at ei thaflen Hawdd ei Darllen ar tramadol a’r wybodaeth ddiweddaraf am ragnodi anadlyddion tra bod Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (WNPU) wedi cyflwyno eu gwybodaeth i’r cyhoedd, sydd newydd ei datblygu, am atal gwenwyno.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Clare Elliott, Uwch Wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, a oedd yn annog rhannu adborth a thrafod trwy gydol y cyfarfod awr a hanner.

Roedd y cyflwyniad cyntaf gan Dr Mark Horowitz a Stevie Lewis o The Institute for Psychiatric Drug Withdrawal yn edrych ar y broblem a brofir gan rai pobl wrth roi’r gorau i feddyginiaethau gwrth-iselder a sut y gellir lliniaru hyn trwy leihau’r dosau yn ofalus dros amser.

Y nesaf i gyflwyno oedd Jo Hubbard ac Andrea Griffiths o Wasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (WMAS) a siaradodd am y Llinell Gymorth Meddyginiaethau sy’n adnodd gwych sydd ar gael i gleifion yn ardal Caerdydd a’r Fro. Mae manylion ar sut i gysylltu â hi ar gael ar wefan WMAS: https://www.wmic.wales.nhs.uk/medicines-helpline/. Mae gwybodaeth am wasanaethau lleol mewn ardaloedd byrddau iechyd eraill ar gael yn https://www.wmic.wales.nhs.uk/about/find-your-local-centre/.

Cyflwynwyd y sgwrs nesaf, ar bwysigrwydd gwneud gwybodaeth yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan Simon Rose o Anabledd Dysgu Cymru (LDW). Roedd hwn yn gyflwyniad diddorol iawn ar sut i wneud gwybodaeth am feddyginiaeth yn hygyrch i bawb. Mae LDW yn troi dogfennau cymhleth, gan gynnwys taflenni gwybodaeth am feddyginiaeth, yn fersiynau hawdd eu darllen fel y gall pobl ag anableddau dysgu eu deall yn well. I gael gwybod mwy ewch i wefan LDW: https://www.ldw.org.uk/ .

Soniodd Karen Jones, Uwch Fferyllydd AWTTC, am brosiect y bu AWTTC yn gweithio arno gyda LDW, i ddatblygu taflen hawdd ei darllen i bobl y rhagnodwyd tramadol iddynt ar gyfer rheoli poen. Mae’r rhain ar gael o wefan AWTTC – fersiwn Saesneg /Cymraeg a byddem yn croesawu adborth ar y rhain yn ogystal ag unrhyw awgrymiadau a chyngor ar ymgysylltu â rhanddeiliaid fel y gallwn sicrhau ein bod yn cael yr adnoddau hyn yn y fformat cywir i’r bobl a fyddai’n cael y budd mwyaf ohonynt. Anfonwch e-bost at Karen Jones: Karen.Jones46@wales.nhs.uk neu awttc@wales.nhs.uk.

Rhoddodd Talan Parnell, Arbenigwr mewn Gwybodaeth am Wenwynau o Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (WNPU), gyflwyniad ar eu hadnoddau cyhoeddus a ddatblygwyd yn ddiweddar ar atal gwenwyno a chymorth cyntaf sydd ar gael ar wefan AWTTC: www.poisons.wales.

Yn olaf, rhoddodd Richard Boldero, Uwch Fferyllydd AWTTC, adolygiad ar nodau Datgarboneiddio: presgripsiynu, defnyddio a gwaredu anadlyddion 2023–2030; Strategaeth genedlaethol i Gymru. Bydd y strategaeth hon yn nodi’r camau uchelgeisiol y bydd angen i GIG Cymru a’i bartneriaid eu cymryd i leihau effaith carbon anadlyddion yng Nghymru. Bydd ymgynghoriad ar y strategaeth hon yn agor yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, a bydd y manylion yn cael eu hanfon mewn e-bost at aelodau PAPIG gyda gwahoddiad i gyflwyno unrhyw sylwadau.

Hoffai AWTTC ddiolch i’r holl gyflwynwyr am sgyrsiau mor ddiddorol ac addysgiadol ac i bawb a ddaeth i’r cyfarfod. Mae fideos o’r cyflwyniadau ar gael yma: https://cttcg.gig.cymru/papig

Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau o’r cyhoedd.

Mae cyfarfod nesaf PAPIG ar 19 Hydref 2023 - bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys y rhaglen a ffurflen gofrestru, ar gael yma yn ystod yr wythnosau nesaf: https://cttcg.gig.cymru/papig yn yr wythnosau nesaf.

 

Dilynwch AWTTC: