Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) - 20 Ebrill 2023

Cynhaliwyd cyfarfod ar-lein diweddaraf y Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) ar 20 Ebrill ac roedd yn canolbwyntio ar amlgyffuriaeth. Mae amlgyffuriaeth (un person yn cymryd sawl math o feddyginiaeth) yn gysylltiedig â risg uwch o wynebu problemau gan gynnwys sgil-effeithiau.

Dan gadeiryddiaeth Dr Clare Elliott, Uwch Wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, siaradwr cyntaf y cyfarfod oedd Sabrina Rind, Uwch Fferyllydd, a roddodd ddiweddariad ar y gwaith diweddar sydd wedi bod yn digwydd yn AWTTC. Yn dilyn hyn, gwnaeth Helen Adams, Uwch Fferyllydd, roi trosolwg byr ar ddiweddariadau i lwybrau mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â thirwedd mynediad at feddyginiaethau ehangach y DU.

Gan symud ymlaen at brif bwnc y cyfarfod, clywodd y rhai a oedd yn bresennol rai profiadau personol o amlgyffuriaeth o safbwynt cleifion a gofalwyr. Siaradodd Rob Lee, o Diabetes UK, mewn fideo a recordiwyd ymlaen llaw am yr heriau o gymryd meddyginiaethau lluosog i reoli ei ddiabetes, y gefnogaeth y mae wedi’i chael gan weithwyr iechyd proffesiynol a pha gymorth pellach a fyddai’n ddefnyddiol. Rhannodd dau gydweithiwr AWTTC, Sabrina a Dr Rob Bracchi, Cynghorydd Meddygol, eu profiadau o amlgyffuriaeth fel gofalwyr perthnasau oedrannus. Soniodd y ddau am y problemau y mae cleifion oedrannus yn eu hwynebu o ran ceisio ymdopi â chymryd llawer o feddyginiaethau dyddiol a'r sgîl-effeithiau a all ddeillio o hynny. Dangosodd Rob sut y gallai cofnod gweinyddu meddyginiaeth helpu gofalwyr a chleifion i gadw golwg ar pryd y dylid cymryd gwahanol feddyginiaethau.

Nesaf, gwnaeth Harriet Price a Sheridan Court, Fferyllwyr Clinigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Emyr Jones, Fferyllydd Ymgynghorol Cymru Gyfan, arwain sesiwn drafod agored i gael barn ac awgrymiadau gan fynychwyr ar ba wybodaeth am amlgyffuriaeth y byddai cleifion yn ei chael yn ddefnyddiol.  Cafwyd trafodaeth fywiog ac addysgiadol gyda llawer o bwyntiau pwysig yn cael eu codi a phrofiadau'n cael eu rhannu. Harriet, Sheridan ac Emyr yw awduron  canllaw AWTTC a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru ar amlgyffuriaeth mewn pobl hŷn a bydd yr adborth hwn yn helpu i roi’r canllaw gofal iechyd proffesiynol hwn ar waith yn ymarferol gyda chleifion. 

Yn olaf, rhoddodd Jenna Walker, Fferyllydd Arbenigol a Dr Caroline Norris, Awdur Meddygol, o Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru gyflwyniad craff ar y risg gynyddol o sgil-effeithiau a rhyngweithiadau rhwng cyffuriau wrth gymryd meddyginiaethau lluosog, meddyginiaethau sy'n gysylltiedig yn benodol â sgil-effeithiau, sut i osgoi rhai ohonynt a phwysigrwydd rhoi gwybod am sgil-effeithiau drwy gynllun y Cerdyn Melyn.

Hoffai AWTTC ddiolch i’r holl gyflwynwyr am sgyrsiau mor ddiddorol ac addysgiadol ac i bawb a ddaeth i’r cyfarfod. Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau o’r cyhoedd.

Mae cyfarfod nesaf PAPIG ar 6 Gorffennaf 2023 - mae rhagor o fanylion gan gynnwys y rhaglen a ffurflen gofrestru ar gael o https://cttcg.gig.cymru/papig

 

Dilynwch AWTTC: